Search engine for discovering works of Art, research articles, and books related to Art and Culture
ShareThis
Javascript must be enabled to continue!

Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion

View through CrossRef
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu bod penderfyniadau’n cael eu dylanwadu gan brofiad personol, profiadau cydweithwyr a staff mewn ysgolion eraill, a datblygiad proffesiynol nad yw’n seiliedig ar ymchwil. Mae’r broses o wneud penderfyniadau yn gymhleth a gallai gwell dealltwriaeth o hyn roi darlun o’r ffordd orau o wella’r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn ysgolion, a allai arwain at fabwysiadu mwy o ddulliau addysgu seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gyda chlwstwr o ysgolion yng Nghymru i archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth ddewis pa raglenni i’w mabwysiadu i’w defnyddio. Cynhaliwyd cyfweliadau gydag arweinwyr ysgolion o ddwy ysgol uwchradd, chwe ysgol gynradd ac un ysgol arbennig. Mae ein canlyniadau’n cefnogi canfyddiadau ymchwil flaenorol ac yn darparu mwy o wybodaeth am y ffactorau cydgysylltiedig sy’n dylanwadu ar benderfyniadau. Rydym yn mynd i’r afael â bylchau yn yr wybodaeth ac yn awgrymu sut y gall llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion wella’r broses o wneud penderfyniadau mewn ysgolion i wella’r broses o drosglwyddo a mabwysiadu dulliau addysgu ar sail tystiolaeth.
Title: Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Description:
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol.
Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu bod penderfyniadau’n cael eu dylanwadu gan brofiad personol, profiadau cydweithwyr a staff mewn ysgolion eraill, a datblygiad proffesiynol nad yw’n seiliedig ar ymchwil.
Mae’r broses o wneud penderfyniadau yn gymhleth a gallai gwell dealltwriaeth o hyn roi darlun o’r ffordd orau o wella’r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn ysgolion, a allai arwain at fabwysiadu mwy o ddulliau addysgu seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion.
Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gyda chlwstwr o ysgolion yng Nghymru i archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth ddewis pa raglenni i’w mabwysiadu i’w defnyddio.
Cynhaliwyd cyfweliadau gydag arweinwyr ysgolion o ddwy ysgol uwchradd, chwe ysgol gynradd ac un ysgol arbennig.
Mae ein canlyniadau’n cefnogi canfyddiadau ymchwil flaenorol ac yn darparu mwy o wybodaeth am y ffactorau cydgysylltiedig sy’n dylanwadu ar benderfyniadau.
Rydym yn mynd i’r afael â bylchau yn yr wybodaeth ac yn awgrymu sut y gall llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion wella’r broses o wneud penderfyniadau mewn ysgolion i wella’r broses o drosglwyddo a mabwysiadu dulliau addysgu ar sail tystiolaeth.

Related Results

Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dr...
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Nod y papur hwn yw archwilio effaith rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd CaBan, sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ddiwygiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Yn fwy ...
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â mater addysgu athroniaeth mewn addysg gynradd, uwchradd ac ôl-uwchradd/trydyddol a photensial ei gynnwys yng nghwricwla ysgolion yng Nghymru. Ro...

Back to Top