Search engine for discovering works of Art, research articles, and books related to Art and Culture
ShareThis
Javascript must be enabled to continue!

Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru

View through CrossRef
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwricwla rhyngwladol ar gynnydd yn y meysydd hyn a myfyrdodau o weithgarwch proffesiynol ym ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ y Dyniaethau, sydd newydd gael ei ddiffinio yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae’r papur hwn yn disgrifio sut mae cynnydd dysgu yn y Dyniaethau wedi’i gysyniadoli yn y cwricwlwm newydd ac wedyn yn amlinellu ac yn adolygu’n feirniadol bedair her a gododd wrth ganfod a disgrifio’r cynnydd dysgu yng nghwricwlwm newydd y Dyniaethau. Mae’r tensiynau’n cynnwys y berthynas rhwng disgyblaethau; y cydbwysedd rhwng gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd; y gwahaniaethau rhwng modelau cynnydd sylfaenol yn y Dyniaethau; a chydbwyso cymhlethdod y dysgu ag ystyriaethau ymarferol ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol. Drwy ddefnyddio’r Model Newid Integredd, mae’r papur hwn yn cyfrannu drwy gynnig mewnwelediadau newydd i agweddau eang ar gynnydd dysgu yn y Dyniaethau a thrwy dynnu sylw at y buddion a heriau dichonol o wneud penderfyniadau penodol mewn perthynas â phob un o’r tensiynau hyn. Trafodir goblygiadau sy’n codi mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm ac ymchwil yn y dyfodol, yn cynnwys y rôl sylfaenol sydd gan ddysgu proffesiynol wrth ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm.
Title: Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Description:
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau.
Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwricwla rhyngwladol ar gynnydd yn y meysydd hyn a myfyrdodau o weithgarwch proffesiynol ym ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ y Dyniaethau, sydd newydd gael ei ddiffinio yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae’r papur hwn yn disgrifio sut mae cynnydd dysgu yn y Dyniaethau wedi’i gysyniadoli yn y cwricwlwm newydd ac wedyn yn amlinellu ac yn adolygu’n feirniadol bedair her a gododd wrth ganfod a disgrifio’r cynnydd dysgu yng nghwricwlwm newydd y Dyniaethau.
Mae’r tensiynau’n cynnwys y berthynas rhwng disgyblaethau; y cydbwysedd rhwng gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd; y gwahaniaethau rhwng modelau cynnydd sylfaenol yn y Dyniaethau; a chydbwyso cymhlethdod y dysgu ag ystyriaethau ymarferol ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol.
Drwy ddefnyddio’r Model Newid Integredd, mae’r papur hwn yn cyfrannu drwy gynnig mewnwelediadau newydd i agweddau eang ar gynnydd dysgu yn y Dyniaethau a thrwy dynnu sylw at y buddion a heriau dichonol o wneud penderfyniadau penodol mewn perthynas â phob un o’r tensiynau hyn.
Trafodir goblygiadau sy’n codi mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm ac ymchwil yn y dyfodol, yn cynnwys y rôl sylfaenol sydd gan ddysgu proffesiynol wrth ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm.

Related Results

Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan draf...
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â mater addysgu athroniaeth mewn addysg gynradd, uwchradd ac ôl-uwchradd/trydyddol a photensial ei gynnwys yng nghwricwla ysgolion yng Nghymru. Ro...
Darllen Y Tir Yn Iawn: Mannau'r Cof Yn Drych Y Prif Oesoedd (1716 A 1740)
Darllen Y Tir Yn Iawn: Mannau'r Cof Yn Drych Y Prif Oesoedd (1716 A 1740)
Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans oedd un o lyfrau hanes mwyaf poblogaidd Cymru. Mae'r erthygl hon yn astudio'r Drych yng ngoleuni astudiaethau'r cof, ar y berthynas rhwng ...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Dysgu: efficient structural variant calling using short or long reads
Dysgu: efficient structural variant calling using short or long reads
Abstract Structural variation (SV) plays a fundamental role in genome evolution and can underlie inherited or acquired diseases such as cancer. Long-read sequencing...

Back to Top