Search engine for discovering works of Art, research articles, and books related to Art and Culture
ShareThis
Javascript must be enabled to continue!

Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru

View through CrossRef
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan ‘Exploring the Narrative Coalition’ (grŵp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae’n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy’n wynebu Cymru. Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae’r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio’n feirniadol i naratifau’r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy’n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i’r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol. Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy’n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae’n arddangos sut mae’r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i’r adroddiadau mwy negyddol sy’n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy’n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a’u heffaith ar fywydau pobl gyffredin. Yn ogystal, mae’r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio. Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a'r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy'n effeithio ar naratifau'r newyddion. Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi'u siapio fel ag y maent, mae'r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.
Cardiff University Press
Title: Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Description:
Click here for the English version of this title: https://doi.
org/10.
18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan ‘Exploring the Narrative Coalition’ (grŵp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd.
Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae’n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy’n wynebu Cymru.
Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae’r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio’n feirniadol i naratifau’r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio.
Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy’n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot.
De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i’r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol.
Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli.
Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy’n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth.
Mae’n arddangos sut mae’r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i’r adroddiadau mwy negyddol sy’n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy’n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles.
Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a’u heffaith ar fywydau pobl gyffredin.
Yn ogystal, mae’r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion.
Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi.
Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol.
Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau.
Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio.
Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a'r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy'n effeithio ar naratifau'r newyddion.
Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi'u siapio fel ag y maent, mae'r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.

Related Results

Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Analysis of the Main Economic Sectors in the City of Palangka Raya
Analysis of the Main Economic Sectors in the City of Palangka Raya
This study aims to (1) Know the economic sector that is the leading sector in the City ofPalangka Raya, (2) Know the regional economic structure in the City of Palangka Raya, (3)Kn...
Darllen Y Tir Yn Iawn: Mannau'r Cof Yn Drych Y Prif Oesoedd (1716 A 1740)
Darllen Y Tir Yn Iawn: Mannau'r Cof Yn Drych Y Prif Oesoedd (1716 A 1740)
Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans oedd un o lyfrau hanes mwyaf poblogaidd Cymru. Mae'r erthygl hon yn astudio'r Drych yng ngoleuni astudiaethau'r cof, ar y berthynas rhwng ...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
ANALISIS PRODUCTS PLACEMENT SEBAGAI PENDUKUNG UNSUR NARATIF FILM “TRANSPORTER 3”
ANALISIS PRODUCTS PLACEMENT SEBAGAI PENDUKUNG UNSUR NARATIF FILM “TRANSPORTER 3”
ABSTRAKFilm “Transporter 3” menarik untuk diteliti karena terdapat satu merek produk muncul secara menonjol dari awal sampai akhir cerita sebagai properti.  Kemunculan merek produk...
Kabupaten Halmahera Selatan : Sektor Unggulan Dan Perubahan Struktur Ekonomi
Kabupaten Halmahera Selatan : Sektor Unggulan Dan Perubahan Struktur Ekonomi
The purpose of the study was to determine the economic sector and economic change in Halmahera Seletan district, secondary data from 2019-2023, descriptive quantitative research me...
Pengurusan Pembinaan Insan dalam teks Naratif Ogonshoto
Pengurusan Pembinaan Insan dalam teks Naratif Ogonshoto
Perancangan dalam pengurusan pembinaan insan merupakan suatu proses strategik yang melibatkan pemikiran analitikal dan pertimbangan intelektual, bertujuan mengarah ke arah pencapai...

Back to Top