Javascript must be enabled to continue!
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
View through CrossRef
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb. Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd. Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.
Title: ‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Description:
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol.
Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb.
Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd.
Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.
Related Results
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan draf...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dr...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...

