Javascript must be enabled to continue!
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
View through CrossRef
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffiniau rhwng arbenigaethau pwnc traddodiadol, er mwyn gallu cynnig cyfleoedd dysgu mwy cyfannol a ‘chydgysylltiedig’. Mae’r astudiaeth hon yn tynnu ar brofiadau grŵp o athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru a oedd yn cymryd rhan mewn gwaith i greu fframwaith ar gyfer cwricwlwm integredig i’r celfyddydau mynegiannol. Er bod yr athrawon yn rhannu’r uchelgais o sefydlu cwricwlwm sy’n rhoi statws uwch i’r celfyddydau, mae integreiddio’r cwricwlwm yn cynnig heriau mawr, yn enwedig o ran y ffordd y mae gwybodaeth pwnc yn cael ei deall a’i chyflwyno mewn cwricwlwm integredig. Mae’r athrawon yn delio mewn ffyrdd gwahanol ag integreiddio’r cwricwlwm, lle mae athrawon cynradd yn ffafrio dull trawsddisgyblaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i ddysgu a themâu a ysgogir gan y plentyn, a lle mae athrawon uwchradd yn dewis dulliau amlddisgyblaethol, lle mae’r themâu’n ddyfeisiau trefnu ond lle mae pynciau’n cael blaenoriaeth. Mae’r gwahaniaeth rhwng arferion yn awgrymu bod cysyniadau gwahanol o wybodaeth pwnc a meistrolaeth o fewn cwricwlwm integredig. Gan wneud defnydd yn benodol o gysyniadau Bernstein am ddisgyrsiau gwybodaeth, mae’r papur hwn yn awgrymu mai’r perygl mewn cwricwlwm integredig yw bod gwybodaeth ddisgyblaethol yn gwanhau. Er bod y papur hwn yn ymwneud â’r celfyddydau, mae modd cymhwyso’r negeseuon am integreiddio’r cwricwlwm yn fwy eang.
Title: Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Description:
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm.
Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffiniau rhwng arbenigaethau pwnc traddodiadol, er mwyn gallu cynnig cyfleoedd dysgu mwy cyfannol a ‘chydgysylltiedig’.
Mae’r astudiaeth hon yn tynnu ar brofiadau grŵp o athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru a oedd yn cymryd rhan mewn gwaith i greu fframwaith ar gyfer cwricwlwm integredig i’r celfyddydau mynegiannol.
Er bod yr athrawon yn rhannu’r uchelgais o sefydlu cwricwlwm sy’n rhoi statws uwch i’r celfyddydau, mae integreiddio’r cwricwlwm yn cynnig heriau mawr, yn enwedig o ran y ffordd y mae gwybodaeth pwnc yn cael ei deall a’i chyflwyno mewn cwricwlwm integredig.
Mae’r athrawon yn delio mewn ffyrdd gwahanol ag integreiddio’r cwricwlwm, lle mae athrawon cynradd yn ffafrio dull trawsddisgyblaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i ddysgu a themâu a ysgogir gan y plentyn, a lle mae athrawon uwchradd yn dewis dulliau amlddisgyblaethol, lle mae’r themâu’n ddyfeisiau trefnu ond lle mae pynciau’n cael blaenoriaeth.
Mae’r gwahaniaeth rhwng arferion yn awgrymu bod cysyniadau gwahanol o wybodaeth pwnc a meistrolaeth o fewn cwricwlwm integredig.
Gan wneud defnydd yn benodol o gysyniadau Bernstein am ddisgyrsiau gwybodaeth, mae’r papur hwn yn awgrymu mai’r perygl mewn cwricwlwm integredig yw bod gwybodaeth ddisgyblaethol yn gwanhau.
Er bod y papur hwn yn ymwneud â’r celfyddydau, mae modd cymhwyso’r negeseuon am integreiddio’r cwricwlwm yn fwy eang.
Related Results
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â mater addysgu athroniaeth mewn addysg gynradd, uwchradd ac ôl-uwchradd/trydyddol a photensial ei gynnwys yng nghwricwla ysgolion yng Nghymru. Ro...
Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan
Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan
Mae tystiolaeth lethol yn awgrymu ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd oherwydd effeithiau dynol ar brosesau planedol hanfodol. Ar yr un pryd, mae Cymru wrthi’n gwneud...

