Search engine for discovering works of Art, research articles, and books related to Art and Culture
ShareThis
Javascript must be enabled to continue!

Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion

View through CrossRef
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd cynyddol ymchwil ar gyfer athrawon ac athrawon dan hyfforddiant, datblygodd Partneriaeth Caerdydd fodel lle byddai 'Hyrwyddwr Ymchwil' yn yr ysgol yn rhan annatod o'r gefnogaeth ar gyfer meithrin gallu a datblygu rhagoriaeth. Er i'r model hwn gael ei ddefnyddio ar ffurfiau gwahanol eisoes ym Mhrifysgolion Rhydychen a Manceinion, roedd y rôl yn newydd i ysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig un-i-un gyda sampl cynrychiadol o hyrwyddwyr ymchwil mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a staff prifysgol i adfyfyrio ar yr heriau a'r cyfleoedd yn ystod dyddiau cynnar datblygu'r rôl unigryw hon mewn cyddestun addysgol esblygol yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn defnyddio data o'r cyfweliadau hyn i sefydlu syniadau allweddol ynglŷn â datblygiad rôl yr hyrwyddwr ymchwil, y newid yn y berthynas waith rhwng ysgolion a phrifysgolion a'r hyn sydd ei angen i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer. Trawsgrifiwyd y cyfweliadau ac, yn dilyn dadansoddi thematig penagored, nodir y cyfleoedd a'r heriau. Mae'r themâu hyn yn cynnwys: pontio'r bwlch rhwng ymchwil addysgol ac ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth; y mathau o wybodaeth mae athrawon yn pwyso arnynt; newidiadau mewn rôl ac hunaniaeth. Cynigir awgrymiadau am ymchwil pellach i fonitro datblygiad y rôl yn barhaus.
Title: Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Description:
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion.
Gyda phwysigrwydd cynyddol ymchwil ar gyfer athrawon ac athrawon dan hyfforddiant, datblygodd Partneriaeth Caerdydd fodel lle byddai 'Hyrwyddwr Ymchwil' yn yr ysgol yn rhan annatod o'r gefnogaeth ar gyfer meithrin gallu a datblygu rhagoriaeth.
Er i'r model hwn gael ei ddefnyddio ar ffurfiau gwahanol eisoes ym Mhrifysgolion Rhydychen a Manceinion, roedd y rôl yn newydd i ysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd.
Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig un-i-un gyda sampl cynrychiadol o hyrwyddwyr ymchwil mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a staff prifysgol i adfyfyrio ar yr heriau a'r cyfleoedd yn ystod dyddiau cynnar datblygu'r rôl unigryw hon mewn cyddestun addysgol esblygol yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth yn defnyddio data o'r cyfweliadau hyn i sefydlu syniadau allweddol ynglŷn â datblygiad rôl yr hyrwyddwr ymchwil, y newid yn y berthynas waith rhwng ysgolion a phrifysgolion a'r hyn sydd ei angen i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer.
Trawsgrifiwyd y cyfweliadau ac, yn dilyn dadansoddi thematig penagored, nodir y cyfleoedd a'r heriau.
Mae'r themâu hyn yn cynnwys: pontio'r bwlch rhwng ymchwil addysgol ac ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth; y mathau o wybodaeth mae athrawon yn pwyso arnynt; newidiadau mewn rôl ac hunaniaeth.
Cynigir awgrymiadau am ymchwil pellach i fonitro datblygiad y rôl yn barhaus.

Related Results

Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
Osmanlı’dan Cumhuriyet’e Tophaneli Hacı Mehmet Ağa Vakfı
Osmanlı’dan Cumhuriyet’e Tophaneli Hacı Mehmet Ağa Vakfı
Osmanlı döneminde Erzurum’un sayılı zenginlerinden olan Tophaneli Hacı Mehmet Ağa, 1719’da büyük bir vakıf kurmuştur. Sonraki yıllarda vakfını bir hayli genişletmiştir. Vakıf kapsa...
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan draf...

Back to Top