Javascript must be enabled to continue!
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
View through CrossRef
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cyn archwilio tair thema allweddol sy'n parhau i fod yn bwysig iawn heddiw: y sail resymegol a'r cwricwlwm ar gyfer addysg athrawon, natur cydweithredu rhwng ysgolion a phrifysgolion wrth baratoi athrawon, a datblygu ymchwil addysgol o fewn addysg gychwynnol i athrawon, ar lefel partneriaeth prifysgolion ac ysgolion. Y ddadl ganolog yw os yw athrawon i gyfrannu'n llawn at y diwygiadau ehangach sy'n digwydd yn y system addysg yng Nghymru, byddai'n ddoeth iddynt adfyfyrio'n feirniadol ar eu profiadau blaenorol o'r tair thema dan sylw. Daw'r papur hwn i'r casgliad y gallai methiant i wneud hynny olygu na fydd gan ddarparwyr y wybodaeth angenrheidiol, na fyddant yn barod, ac y byddant bob amser yn ymateb i newid yn hytrach na chymryd rôl ragweithiol a phendant wrth ddylanwadu ar ddyfodol addysg yng Nghymru.
University of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru
Title: Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Description:
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cyn archwilio tair thema allweddol sy'n parhau i fod yn bwysig iawn heddiw: y sail resymegol a'r cwricwlwm ar gyfer addysg athrawon, natur cydweithredu rhwng ysgolion a phrifysgolion wrth baratoi athrawon, a datblygu ymchwil addysgol o fewn addysg gychwynnol i athrawon, ar lefel partneriaeth prifysgolion ac ysgolion.
Y ddadl ganolog yw os yw athrawon i gyfrannu'n llawn at y diwygiadau ehangach sy'n digwydd yn y system addysg yng Nghymru, byddai'n ddoeth iddynt adfyfyrio'n feirniadol ar eu profiadau blaenorol o'r tair thema dan sylw.
Daw'r papur hwn i'r casgliad y gallai methiant i wneud hynny olygu na fydd gan ddarparwyr y wybodaeth angenrheidiol, na fyddant yn barod, ac y byddant bob amser yn ymateb i newid yn hytrach na chymryd rôl ragweithiol a phendant wrth ddylanwadu ar ddyfodol addysg yng Nghymru.
Related Results
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dr...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Nod y papur hwn yw archwilio effaith rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd CaBan, sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ddiwygiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Yn fwy ...
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan draf...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
A oes gan athroniaeth rôl mewn ysgolion?
Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â mater addysgu athroniaeth mewn addysg gynradd, uwchradd ac ôl-uwchradd/trydyddol a photensial ei gynnwys yng nghwricwla ysgolion yng Nghymru. Ro...

