Javascript must be enabled to continue!
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
View through CrossRef
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dros y deugain mlynedd diwethaf, ac yn enwedig ar ddadansoddiadau o atebolrwydd paratoi athrawon yn yr Unol Daleithiau, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Prosiect TEER (Teacher Education and Education Reform), sef grŵp o addysgwyr, ymchwilwyr ac ysgolheigion ym maes addysg athrawon yng Ngholeg Boston. Yr hyn a unai aelodau'r grŵp oedd pryder cynyddol ynglŷn â chyfeiriad y diwygiadau addysg a'r effaith ar addysg athrawon yn UDA ac ymrwymiad i degwch i bob myfyriwr yn ysgolion y wlad. Am bum mlynedd, buom yn olrhain y gwaith o ddiwygio addysg athrawon yn UDA, gan ganolbwyntio ar y prif fentrau atebolrwydd a oedd yn llywio'r maes. Ffrwyth terfynol y gwaith hwn oedd y llyfr Reclaiming Accountability in Teacher Education (Cochran-Smith et al ., 2018). Gan bwyso ar y gwaith hwn ac ar fy mhrofiad yn y cymunedau addysg athrawon cenedlaethol a rhyngwladol, mae tri diben i'r erthygl hon: cyflwyno fframwaith ar gyfer datgloi polisïau atebolrwydd yn ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon; defnyddio'r fframwaith hwnnw i ddisgrifio'n gryno'r prif baradeim atebolrwydd yn UDA a dewis amgen i'r prif baradeim – atebolrwydd democrataidd mewn addysg athrawon; ac yn olaf, defnyddio syniadau o'r fframwaith ac o'n dadansoddiadau yn UDA i wneud sylwadau ar y broses o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd.
University of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru
Title: Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Description:
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon.
Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dros y deugain mlynedd diwethaf, ac yn enwedig ar ddadansoddiadau o atebolrwydd paratoi athrawon yn yr Unol Daleithiau, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Prosiect TEER (Teacher Education and Education Reform), sef grŵp o addysgwyr, ymchwilwyr ac ysgolheigion ym maes addysg athrawon yng Ngholeg Boston.
Yr hyn a unai aelodau'r grŵp oedd pryder cynyddol ynglŷn â chyfeiriad y diwygiadau addysg a'r effaith ar addysg athrawon yn UDA ac ymrwymiad i degwch i bob myfyriwr yn ysgolion y wlad.
Am bum mlynedd, buom yn olrhain y gwaith o ddiwygio addysg athrawon yn UDA, gan ganolbwyntio ar y prif fentrau atebolrwydd a oedd yn llywio'r maes.
Ffrwyth terfynol y gwaith hwn oedd y llyfr Reclaiming Accountability in Teacher Education (Cochran-Smith et al .
, 2018).
Gan bwyso ar y gwaith hwn ac ar fy mhrofiad yn y cymunedau addysg athrawon cenedlaethol a rhyngwladol, mae tri diben i'r erthygl hon: cyflwyno fframwaith ar gyfer datgloi polisïau atebolrwydd yn ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon; defnyddio'r fframwaith hwnnw i ddisgrifio'n gryno'r prif baradeim atebolrwydd yn UDA a dewis amgen i'r prif baradeim – atebolrwydd democrataidd mewn addysg athrawon; ac yn olaf, defnyddio syniadau o'r fframwaith ac o'n dadansoddiadau yn UDA i wneud sylwadau ar y broses o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd.
Related Results
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Hanes Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru: Gwersi o'r Gorffennol?
Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cyddestun ar gyfer y diwygiadau cyfredol i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru Mae'r adran gyntaf yn cyflwyno'r prif ddatblygiadau hanesyddol cy...
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Nod y papur hwn yw archwilio effaith rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd CaBan, sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ddiwygiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Yn fwy ...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Datblygiad Addysg Gymraeg ers Datganoli
Datblygiad Addysg Gymraeg ers Datganoli
Bwriad yr erthygl hon yw ystyried rhai o’r ffactorau mwyaf allweddol a fu ar waith ym meysydd polisi Addysg a’r Gymraeg yn ystod y pum mlynedd ar hugain o dan sylw. Bydd yr erthygl...
Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru
Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru
Wrth i Gymru nodi chwarter canrif o lunio polisïau datganoledig ym maes addysg, mae'r gyfrol olygiedig hon yn dathlu’r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
Llunio polisi addysg datganoledig yn y DU: golwg ar bedair awdurdodaeth
Llunio polisi addysg datganoledig yn y DU: golwg ar bedair awdurdodaeth
Mae’r papur byr hwn yn mynd i’r afael â chyflymder a llif y symudiadau polisi mewn addysg yng nghyd-destun y broses barhaus o ddatganoli gwleidyddol a gweinyddol yn y DU. Mae’r cys...
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd ...

