Javascript must be enabled to continue!
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
View through CrossRef
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd wedi’u nodweddu gan bolisïau sydd â’r bwriad o gynyddu galluedd a phroffesiynoldeb athrawon fel modd i sicrhau newid llwyddiannus. Yng Nghymru, mae’r dull hwn wedi’i hyrwyddo drwy fabwysiadu egwyddor sybsidiaredd. Cyflwynir pedwar rheswm cydgysylltiedig dros ei defnyddio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd. Gellir crynhoi’r rhain fel a ganlyn: y bydd yn hybu proffesiynoldeb athrawon; yn sbarduno gwelliannau mewn addysgu; yn gwneud ysgolion yn fwy ymatebol i anghenion lleol a chenedlaethol; yn arwain at fwy o hyder yn y diwygiadau. Mae’r papur hwn yn edrych ar y graddau y mae’r pedwar cyfiawnhad hyn wedi’u hadlewyrchu ym mhrofiadau athrawon o ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn y broses sy’n arwain ar ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’n dangos, drwy dynnu ar ddata o 10 cyfweliad manwl lled‐strwythuredig ac arolwg o fwy na 600 o athrawon, fod croeso cyffredinol i egwyddor sybsidiaredd ond nad yw’n glir o bell ffordd a yw’n bodloni’r meini prawf a gyflwynwyd i’w chyfiawnhau. Trafodir cwestiynau ynghylch cymhwyso egwyddor sybsidiaredd at ddiwygio cwricwla.
Title: Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Description:
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd wedi’u nodweddu gan bolisïau sydd â’r bwriad o gynyddu galluedd a phroffesiynoldeb athrawon fel modd i sicrhau newid llwyddiannus.
Yng Nghymru, mae’r dull hwn wedi’i hyrwyddo drwy fabwysiadu egwyddor sybsidiaredd.
Cyflwynir pedwar rheswm cydgysylltiedig dros ei defnyddio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd.
Gellir crynhoi’r rhain fel a ganlyn: y bydd yn hybu proffesiynoldeb athrawon; yn sbarduno gwelliannau mewn addysgu; yn gwneud ysgolion yn fwy ymatebol i anghenion lleol a chenedlaethol; yn arwain at fwy o hyder yn y diwygiadau.
Mae’r papur hwn yn edrych ar y graddau y mae’r pedwar cyfiawnhad hyn wedi’u hadlewyrchu ym mhrofiadau athrawon o ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn y broses sy’n arwain ar ddiwygio’r cwricwlwm.
Mae’n dangos, drwy dynnu ar ddata o 10 cyfweliad manwl lled‐strwythuredig ac arolwg o fwy na 600 o athrawon, fod croeso cyffredinol i egwyddor sybsidiaredd ond nad yw’n glir o bell ffordd a yw’n bodloni’r meini prawf a gyflwynwyd i’w chyfiawnhau.
Trafodir cwestiynau ynghylch cymhwyso egwyddor sybsidiaredd at ddiwygio cwricwla.
Related Results
Social Media and Donations During Disasters
Social Media and Donations During Disasters
Disaster response organizations (DROs) utilize social media to support fundraising efforts. They post appeals for donations and share updates on their relief efforts to engage pote...
Pharmaceutical Care Practice in Community and Institutional Drug Retail Outlets of Gondar Town, North West Ethiopia
Pharmaceutical Care Practice in Community and Institutional Drug Retail Outlets of Gondar Town, North West Ethiopia
Background Pharmaceutical care (PC) practice in Ethiopia is not well developed and is at its infant stage. As a result, very little is known about the level of involvement of pharm...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Atebolrwydd a Diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon: Safbwynt o Dramor
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar atebolrwydd fel dull o ddiwygio addysg athrawon. Mae'r erthygl yn seiliedig ar fy mhrofiad fel ysgolhaig ac addysgwr ym maes addysg athrawon dr...
Schooner Brilliant Sail Coefficients and Speed Polars
Schooner Brilliant Sail Coefficients and Speed Polars
The sail coefficients for a schooner rig, as a function of wind angle and heel angle, are presented, based on an experimental program, for historic vessel research, at Mystic Seapo...
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...
GAMBARAN PENGETAHUAN GURU TENTANG MANAJEMEN BENCANA KABUT ASAP OLEH GURU PAUD
GAMBARAN PENGETAHUAN GURU TENTANG MANAJEMEN BENCANA KABUT ASAP OLEH GURU PAUD
The purpose of this research is to know the teacher's knowledge on the disaster management of haze by Early childhood education teachers in Sail Pekanbaru district. This research ...

