Search engine for discovering works of Art, research articles, and books related to Art and Culture
ShareThis
Javascript must be enabled to continue!

A yw rhyngweithio cymdeithasol yn gwella ymgysylltiad â thrafodaethau yn yr ystafell ddosbarth?

View through CrossRef
Roedd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i effaith rhyngweithio cymdeithasol ar lefelau cyfranogiad mewn trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth. Defnyddiwyd dulliau ansoddol a meintiol. Casglwyd data gan garfan o ddysgwyr lefel 1 rhwng 16 a 19 oed a atebodd gwestiynau ar ddechrau a diwedd yr ymchwil, yn ogystal â chymryd rhan mewn grŵp ffocws ar y diwedd. Cymerodd y dysgwyr ran mewn gweithgaredd diagram Venn yn wythnosol a chawsant wahanol bwnc trafod bob wythnos. Roedd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn parau a oedd yn cylchdroi bob wythnos i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn y grŵp wedi siarad â’i gilydd. Mae dadansoddiad cyffredinol o’r data yn dangos bod cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad â thrafodaethau dosbarth. Mae’r canfyddiadau yn awgrymu, pan oedd y dysgwyr yn teimlo’n seicolegol ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, fod eu hymgysylltiad wedi cynyddu. Wrth symud ymlaen, byddai’n fuddiol i ymchwil ddilynol ymchwilio i hyn dros y flwyddyn academaidd gyfan ac ystyried y cyfyngiadau a gafwyd yn yr astudiaeth gyfredol.
University of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru
Title: A yw rhyngweithio cymdeithasol yn gwella ymgysylltiad â thrafodaethau yn yr ystafell ddosbarth?
Description:
Roedd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i effaith rhyngweithio cymdeithasol ar lefelau cyfranogiad mewn trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth.
Defnyddiwyd dulliau ansoddol a meintiol.
Casglwyd data gan garfan o ddysgwyr lefel 1 rhwng 16 a 19 oed a atebodd gwestiynau ar ddechrau a diwedd yr ymchwil, yn ogystal â chymryd rhan mewn grŵp ffocws ar y diwedd.
Cymerodd y dysgwyr ran mewn gweithgaredd diagram Venn yn wythnosol a chawsant wahanol bwnc trafod bob wythnos.
Roedd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn parau a oedd yn cylchdroi bob wythnos i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn y grŵp wedi siarad â’i gilydd.
Mae dadansoddiad cyffredinol o’r data yn dangos bod cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol wedi cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad â thrafodaethau dosbarth.
Mae’r canfyddiadau yn awgrymu, pan oedd y dysgwyr yn teimlo’n seicolegol ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, fod eu hymgysylltiad wedi cynyddu.
Wrth symud ymlaen, byddai’n fuddiol i ymchwil ddilynol ymchwilio i hyn dros y flwyddyn academaidd gyfan ac ystyried y cyfyngiadau a gafwyd yn yr astudiaeth gyfredol.

Related Results

Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Adrodd ar Dlodi Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4 Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan draf...
Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan
Colli cynefin – colli ein lle, colli ein cartref, colli ein hunan
Mae tystiolaeth lethol yn awgrymu ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd oherwydd effeithiau dynol ar brosesau planedol hanfodol. Ar yr un pryd, mae Cymru wrthi’n gwneud...
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Canfyddiadau Rôl Newydd yr Hyrwyddwyr Ymchwil wrth Ddatblygu Partneriaeth AGA Newydd: Heriau a Chyfleoedd i Ysgolion a Phrifysgolion
Ar ôl proses o dendro cystadleuol ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, mae cyfle i ail-edrych ar y berthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion. Gyda phwysigrwydd...
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Y ffactorau sy’n llywio penderfyniadau arweinwyr ysgolion wrth fabwysiadu rhaglenni i’w defnyddio mewn ysgolion
Mae mwy o athrawon bellach yn ymwneud â thystiolaeth ymchwil allanol. Fodd bynnag, wrth ddewis dulliau addysgu, mae tystiolaeth ddiweddar o ymchwil seiliedig ar arolygon yn awgrymu...
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Hybu chwarae teg: Mentora Deialogaidd yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon CaBan
Nod y papur hwn yw archwilio effaith rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd CaBan, sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymateb i ddiwygiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Yn fwy ...
From Fragments to Assemblage: An Interview with Professor Colin McFarlane
From Fragments to Assemblage: An Interview with Professor Colin McFarlane
This edited transcript presents an interview with Colin McFarlane, Professor of Urban Geography at Durham University, conducted by Emanuele Amo and Fabiana D’Ascenzo at the Gregyno...
Cyfraith a Threfn yn Abertawe 1891-1920: Astudiaeth gymdeithasegol
Cyfraith a Threfn yn Abertawe 1891-1920: Astudiaeth gymdeithasegol
Prif nod yr ymchwil hwn yw defnyddio cofnodion cyfreithiol Llys Chwarter Bwrdeistref Abertawe, a chofnodion cysylltiedig, er mwyn rhoi darlun o natur droseddol a chymdeithasol Aber...
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr‐ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sy...

Back to Top