Javascript must be enabled to continue!
Agweddau ar lên taith yn y Gymraeg mewn perthynas ag America Ladin
View through CrossRef
Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol. Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol. Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sylw i lên taith yn y Gymraeg gan leoli’r astudiaeth honno o fewn cyd-destun ôl-drefedigaethol, a chan ganolbwyntio ar lên taith sy’n ymwneud ag America Ladin. Mae’r gwaith yn rhan o sgwrs ehangach yn y Gymraeg am y tensiwn y mae Cymru yn ei brofi, rhwng bod yn ddioddefwyr i imperialaeth Brydeinig ac yn weithredwyr trefedigaethol ar yr un pryd. Wrth ymdrin â llên taith am Batagonia yn benodol, mae’r gwaith yn tynnu ar faes theori aneddfeydd gwladfaol. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu i faes astudiaethau llên taith hefyd trwy ddadlau dros gynnwys barddoniaeth o fewn astudiaethau o lên taith; a chan dynnu ar enghreifftiau o farddoniaeth daith Gymraeg dros gyfnod o ganrif, bydd yr ymchwil hwn yn dangos sut y mae beirdd yn benthyg ac yn arbrofi â chonfensiynau rhyddiaith daith o fewn barddoniaeth daith. Y testunau dan sylw yw ‘O ddyddlyfr taith’ (1931) gan T. H. Parry-Williams; Sajama (1960) ac Illimani (1964) gan T. Ifor Rees; Dringo’r Andes (1904) gan Eluned Morgan; Crwydro Patagonia (1960) gan R. Bryn Williams; Eldorado (1999) gan Twm Morys ac Iwan Llwyd; a Glaniad (2015) gan Mererid Hopwood a Karen Owen.
Title: Agweddau ar lên taith yn y Gymraeg mewn perthynas ag America Ladin
Description:
Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol.
Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol.
Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sylw i lên taith yn y Gymraeg gan leoli’r astudiaeth honno o fewn cyd-destun ôl-drefedigaethol, a chan ganolbwyntio ar lên taith sy’n ymwneud ag America Ladin.
Mae’r gwaith yn rhan o sgwrs ehangach yn y Gymraeg am y tensiwn y mae Cymru yn ei brofi, rhwng bod yn ddioddefwyr i imperialaeth Brydeinig ac yn weithredwyr trefedigaethol ar yr un pryd.
Wrth ymdrin â llên taith am Batagonia yn benodol, mae’r gwaith yn tynnu ar faes theori aneddfeydd gwladfaol.
Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu i faes astudiaethau llên taith hefyd trwy ddadlau dros gynnwys barddoniaeth o fewn astudiaethau o lên taith; a chan dynnu ar enghreifftiau o farddoniaeth daith Gymraeg dros gyfnod o ganrif, bydd yr ymchwil hwn yn dangos sut y mae beirdd yn benthyg ac yn arbrofi â chonfensiynau rhyddiaith daith o fewn barddoniaeth daith.
Y testunau dan sylw yw ‘O ddyddlyfr taith’ (1931) gan T.
H.
Parry-Williams; Sajama (1960) ac Illimani (1964) gan T.
Ifor Rees; Dringo’r Andes (1904) gan Eluned Morgan; Crwydro Patagonia (1960) gan R.
Bryn Williams; Eldorado (1999) gan Twm Morys ac Iwan Llwyd; a Glaniad (2015) gan Mererid Hopwood a Karen Owen.
Related Results
Phase I Study Of P-Glycoprotein (P-gp) Mediated Drug Interactions Between Lenalidomide (LEN) and Quinidine Or Temsirolimus
Phase I Study Of P-Glycoprotein (P-gp) Mediated Drug Interactions Between Lenalidomide (LEN) and Quinidine Or Temsirolimus
Abstract
Introduction
Lenalidomide (LEN) is a weak substrate of P-glycoprotein (P-gp) in vitro and renal excretion of LEN is the...
Datblygiad Addysg Gymraeg ers Datganoli
Datblygiad Addysg Gymraeg ers Datganoli
Bwriad yr erthygl hon yw ystyried rhai o’r ffactorau mwyaf allweddol a fu ar waith ym meysydd polisi Addysg a’r Gymraeg yn ystod y pum mlynedd ar hugain o dan sylw. Bydd yr erthygl...
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwr...
Evaluation of Atezolizumab Plus Bevacizumab Versus Modified Lenvatinib Therapy in Child-Pugh A Unresectable Hepatocellular Carcinoma
Evaluation of Atezolizumab Plus Bevacizumab Versus Modified Lenvatinib Therapy in Child-Pugh A Unresectable Hepatocellular Carcinoma
Background/Aim: Atezolizumab/bevacizumab (Atez/BV) and lenvatinib (LEN) are the recommended first-line treatments for patients with unresectable hepatocellular carcinoma (HCC). Pre...
Llunio polisi addysg datganoledig yn y DU: golwg ar bedair awdurdodaeth
Llunio polisi addysg datganoledig yn y DU: golwg ar bedair awdurdodaeth
Mae’r papur byr hwn yn mynd i’r afael â chyflymder a llif y symudiadau polisi mewn addysg yng nghyd-destun y broses barhaus o ddatganoli gwleidyddol a gweinyddol yn y DU. Mae’r cys...
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffin...
HAIC Combined with lenvatinib plus PD-1 versus lenvatinib Plus PD-1 in patients with high-risk advanced HCC: a real-world study
HAIC Combined with lenvatinib plus PD-1 versus lenvatinib Plus PD-1 in patients with high-risk advanced HCC: a real-world study
Abstract
Background
The treatment of hepatocellular carcinoma (HCC) patients exhibiting high-risk characteristics (Vp4, and/or bile duct invasion, a...
Aplikasi My Len Untuk Menghubungkan Branding, Komunikasi Pemasaran, dan Penjualan dalam Satu Platform Digital Terintegrasi di PT Len Pesero
Aplikasi My Len Untuk Menghubungkan Branding, Komunikasi Pemasaran, dan Penjualan dalam Satu Platform Digital Terintegrasi di PT Len Pesero
Penelitian ini bertujuan agar penulis menemukan media interaktif terintegrasi yang dapat menghubungkan branding, komunikasi pemasaran, dan penjualan untuk mempercepat proses bisnis...

